Croeso i

Partneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwarchod, amddiffyn a hyrwyddo natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Canfyddwch sut y gallwch gymryd rhan
Scroll Down

Amdanom ni

Partneriaeth Natur ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Bionet yw enw’r Bartneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cwmpasu Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Rydym yn bartneriaeth o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio i warchod, amddiffyn a gwella bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

           

Darllenwch Ein Stori

Aelodau Bionet

Cynllun Adfer Natur

Sut ydym yn bwriadu gwneud gwahaniaeth

Mae ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur yn nodi beth fydd ein heffaith tymor byr, canolig a hirdymor ar gyfer Gwarchod Natur yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Afonydd, Pyllau a Gwlyptiroedd

Er bod ansawdd dŵr mewn afonydd wedi gwella yn gyffredinol dros y 25 mlynedd diwethaf, dim ond 1 allan o 6 math o gynefinoedd dŵr croyw sy’n cael ei ystyried yn statws cadwraeth ffafriol.

Ein cynlluniau:
  • Mapio ein cynefinoedd gwlyptir a phrosiectau cysylltiedig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Cynyddu niferoedd cynefinoedd afonydd, pyllau a gwlyptiroedd sydd dan reolaeth ffafriol.
  • Cynyddu niferoedd a gwytnwch gwlyptiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Darllenwch gynllun adfer llawn

Coetiroedd

Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop lle mae coetiroedd yn gorchuddio dim ond 14.8% o’r tir o’i gymharu â chyfartaledd o 38% ar gyfer yr UE.

Ein cynlluniau:
  • Mapio ein cynefinoedd coetir a phrosiectau cysylltiedig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Cynyddu niferoedd coetiroedd llydanddail a chymysg brodorol a choed dan reolaeth ffafriol.
  • Cynyddu coetiroedd llydanddail a chymysg brodorol, brigdwf, cysylltedd a gwytnwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Darllenwch gynllun adfer llawn

Glaswelltiroedd

Glaswelltir yw bron i ddau draean o orchudd tir Cymru. Fodd bynnag mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltir hwn wedi’i wella yn amaethyddol (wedi’i ail-hadu, gwrteithio neu ei ddraenio), a dim ond 9% ohono sy'n laswelltir lled-naturiol.

Ein cynlluniau:
  • Mapio ein cynefin glaswelltir a phrosiectau cysylltiedig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Cynyddu niferoedd cynefinoedd glaswelltir dan reolaeth ffafriol.
  • Cynyddu niferoedd a gwytnwch glaswelltir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Darllenwch gynllun adfer llawn

Gymryd rhan

Sut fedrwch chi helpu?

Hoffech chi wneud rhywbeth i helpu natur yn eich ardal chi?

Yn aml mae gan ein partneriaid gyfleoedd i chi gymryd rhan trwy fynychu digwyddiadau a gweithgareddau. Gall hyn gynnwys plannu coed, monitro rhywogaethau penodol, diwrnodau hwyl bywyd gwyllt, cyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb neu ar-lein. Ymgyrchoedd cenedlaethol y gallwch gymryd rhan ynddynt yn eich ardal leol. Gwiriwch y dudalen hon am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gorwel.

Cymerwch ran

Adnoddau

Cyngor ar Sut i wneud gwahaniaeth

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen