Sir y Fflint yn Blodeuo

Ein Dull

Bellach mae gennym dros 150 o safleoedd ar draws Sir y Fflint sy’n cael eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt a phryfed peillio. Mae ymagweddau at ardaloedd blodau gwyllt wedi amrywio ar draws Awdurdodau Lleol. Mae tystiolaeth yn cefnogi ystod o ddulliau. Ar draws Sir y Fflint mae gennym amrywiaeth o safleoedd gan gynnwys:

  • Safleoedd naturiol amrywiol – lle rydym wedi dechrau rheoli’r safleoedd i warchod y banc hadau gwyllt presennol
  • Safleoedd blodau gwyllt trefol (hadu, tyweirch, blodau gwyllt plwg)
  • Lleihau toriad gwair

Mae’r rhain i gyd o fudd enfawr i’n peillwyr.  Mae safleoedd blodau gwyllt trefol yn arbennig o fuddiol gan ddarparu cerrig camu o gynefin yn y dirwedd, yn helpu cymunedau i ailgysylltu â natur a chael gwerth esthetig uchel.

Efallai eich bod wedi gweld ein harwyddion Ardal Natur sy’n cael eu gosod i amlygu’r ardaloedd sy’n cael eu rheoli ar gyfer natur. Rydym wedi buddsoddi arian grant mewn peiriannau newydd a fydd yn casglu’r toriadau a system rheoli chwyn nad yw’n gemegol, sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan ein ceidwad cefn gwlad a’n tîm gwasanaethau stryd.

Bydd y rhan fwyaf o’n safleoedd blodau gwyllt yn cael un toriad ar ddiwedd yr haf/dechrau’r hydref ar ôl i’r blodau gwyllt flodeuo a hadu. Bydd y toriadau yn y safleoedd yn cael eu casglu er mwyn sicrhau’r amodau cywir i flodau gwyllt barhau i dyfu.

Mewn gwirionedd, dim ond 1% o’n cynefinoedd dolydd traddodiadol sydd gennym ar ôl yn y DU. Mae hyn yn ddinistriol i gynefin sy’n un o’n cyfoethocaf o ran bioamrywiaeth. Ond dyma hefyd y rheswm y mae angen inni ganolbwyntio ar adfer cynefinoedd wrth symud ymlaen.

Mae rheoli ein cynefinoedd glaswelltir yn y ffordd gywir yn sicrhau ein bod nid yn unig yn cynnal ein peillwyr ond hefyd yn adfer cynefin naturiol hynafol ac yn gwarchod ein blodau gwyllt brodorol.

Pam ein bod angen blodau gwyllt

  • Mae ardaloedd blodau gwyllt a dolydd yn darparu cynefin pwysig i bryfed, adar a mamaliaid ac yn sefydlu cysylltiadau naturiol trwy ein hardaloedd trefol.
  • Mae blodau gwyllt yn creu lle brafiach ar gyfer cerdded a hamdden. Mae’n edrych yn brafiach a phrofwyd bod treulio amser mewn lle naturiol yn gwneud i bobl deimlo’n dawelach.
  • Gall cynyddu llystyfiant naturiol helpu i leihau llygryddion yn yr aer. Gall llystyfiant naturiol sy’n tyfu mewn lleoliad trefol gynyddu dyddodiad llygryddion aer o’r aer i arwynebau’r planhigion, gan wneud aer yn lanach i’w anadlu.
  • Gall ardaloedd naturiol helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb. Gall glaw trwm gael ei amsugno i’r ddaear athraidd a chan systemau gwreiddiau planhigion sydd oll yn lleihau maint a chyflymder symudiad dŵr.
  • Mae ardaloedd naturiol yn bwysig i helpu i arafu effeithiau newid hinsawdd. Nid coed yn unig sy’n amsugno carbon. Mae llystyfiant sy’n tyfu a’i systemau gwreiddiau yn amsugno carbon o’r atmosffer ac yn ei storio fel biomas.

Colli Blodau Gwyllt

  • Mae cynefin dolydd blodau gwyllt wedi lleihau 99%, mae newidiadau mewn rheolaeth, seilwaith, datblygiadau eraill ac arferion ffermio i gyd yn rhan o’r rhesymau y tu ôl i’r dirywiad.
  • Yn anffodus mae’r ardaloedd bach o laswelltir sydd gennym ar ôl yn aml yn cael eu rheoli mewn ffordd sy’n lleihau amrywiaeth a gwerth i fywyd gwyllt.
  • Mae’r rhan fwyaf o’n safleoedd glaswelltir wedi cael eu rheoli’n ddwys dros nifer o flynyddoedd, o dan raglen o dorri gwair yn rheolaidd (gyda thoriadau glaswellt yn cael eu gadael ar y ddaear) mae hyn yn achosi i laswelltiroedd ddod yn gyfoethog o faetholion.
  • Mae lefelau uchel o faetholion yn ffafrio tyfiant gweiriau garw sy’n fwy na blodau gwyllt, ac yn raddol mae’r banc hadau blodau gwyllt yn y ddaear yn lleihau.
  • Mae llawer o flodau gwyllt llai lliwgar hefyd yn bwysig i bryfed peillio.

Pwysigrwydd peillwyr

  • Mae bron i 90% o’n blodau gwyllt yn dibynnu ar beillio gan bryfed a thua 80% o’n cnydau bwyd. Mae angen pryfyn ar gyfer peillio ar 1 o bob 3 llond ceg o’n bwyd.
  • Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ein poblogaethau o bryfed, maent yn sail i’n hecosystemau a’n prosesau ecolegol.
  • Nid am wenyn yn unig yr ydym yn sôn, yn y gwyllt mae ein pryfed peillio yn cynnwys; gwyfynod a gloÿnnod byw, pryfed, gwenyn meirch, chwilod a gwenyn.
  • Maent yn wynebu llawer o fygythiadau gan gynnwys; colli a diraddio cynefinoedd, defnyddio plaladdwyr a hinsawdd sy’n newid.