Amdanom ni

Mwy o wybodaeth am Bionet

Bionet yw enw’r Bartneriaeth Natur Leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cwmpasu Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Rydym yn bartneriaeth o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio i warchod, amddiffyn a gwella bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

Test

Ein hamcanion

 

Mae gan ein gwaith 3 prif amcan:
• Amcan 1: Cydweithio a chydlynu camau gweithredu
Canlyniad: Camau gweithredu wedi’u trefnu a’u hyrwyddo yn dda i gefnogi’r gwaith o atal colli bioamrywiaeth yn lleol ac yn rhanbarthol

• Amcan 2: Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo bioamrywiaeth
Canlyniad: Mwy o ymwybyddiaeth; bydd Bionet yn rhannu, cynghori a hysbysu yn weithredol. Creu cymuned sy’n ymgysylltu â chamau gweithredu cadwraeth lleol ac sydd â mynediad hawdd i arbenigedd ac adnoddau ar gyfer natur.

• Amcan 3: Nodi blaenoriaethau’r Bartneriaeth Natur Leol, galluogi a darparu camau gweithredu ar y blaenoriaethau hyn
Canlyniad: Llwyddo i drosi targedau cenedlaethol yn gamau gweithredu lleol, arddangos llwybrau clir rhwng camau gweithredu lleol a thargedau cenedlaethol.

Aelodau Bionet

Dull Rhanbarthol

Ar hyn o bryd mae Bionet yn cael ei gydlynu gan Swyddogion Bioamrywiaeth neu Gydlynwyr y Bartneriaeth Natur Leol sy’n eistedd o fewn Awdurdodau Lleol.

Sefydlwyd Bionet yn 2010 trwy gyfuno partneriaethau unigol ar draws Siroedd Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae’r bartneriaeth yn cyfarfod bob 6 mis ac yn darparu fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth, datblygu prosiectau, cwmpasu cyfleoedd ariannu a rhwydweithio.

Hoffech chi gymryd rhan?

Gwybodaeth ynglŷn â sut y gallwch greu effaith

Cofrestru

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen