Safle blodau gwyllt

Yr Hôb: The Willows

Safle a reolir gan Strydwedd

Yr Hôb: The Willows

257m²

Scroll Down

Disgrifiad o’r Safle

• Ebrill 2018 – Adeiladwyd saith gwely bodau gwyllt fel menter gymunedol leol yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion Gwasanaethau Stryd a Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint. Cysylltwyd y prosiect â sgwrs gan un o’r trigolion lleol, Steve Williams ar ‘Bwysigrwydd Gwenyn’ yn Llyfrgell Gymunedol yr Hôb.

• Awst 2018 – Dyfarnwyd statws “Caru Gwenyn” i’r safle drwy gynllun a gynhelir gan Gyfeillion y Ddaear Cymru a Chynulliad Cymru bryd hynny. Dyma’r safle cyntaf yn Sir y Fflint i dderbyn cydnabyddiaeth o’r fath.

• 11 Tachwedd 2018 – Cyflwynwyd gwely blodau gwyllt y Willows er cof am y milwyr lleol a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan y Parch Adam Pawley yn ystod yr Orymdaith Goffa flynyddol. Daeth tua 400 o bobl i’r digwyddiad.

• 8 Tachwedd 2019 – Cafodd plac ei ddadorchuddio ym Maes Chwarae’r Willows i goffáu’r safle cyfan ar ddod yn Gae Canmlwyddiant, wedi iddo gael ei gydnabod gan Feysydd Chwarae Cymru Canmlwyddiant, yn dilyn enwebiad gan Gyngor Cymuned yr Hôb, cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint ac ymgyrch leol a oedd yn cyfrannu at waith y rhai a oedd yn rhan o greu’r wefan www.Flintshirewarmemorials.com . Rhoddodd y gydnabyddiaeth lefel ychwanegol o ddiogelwch i’r safle cyfan, yn ogystal â’i fentrau bioamrywiaeth presennol ac yn y dyfodol.

• Wedi hynny, bu i Gyngor Sir y Fflint uno’r saith gwely blodau gwyllt i greu un arddangosfa hirach a lliwgar o’r blodau gwyllt yn flynyddol.

 

Rhywogaethau sy’n bresennol

Pys y Ceirw
(Lotus corniculatus)
Penlas yr Ŷd
(Centaurea cyanus)
Pabi
(Papaver rhoeas)
Moronen y Meysydd
(Daucus carota subsp. carota)
Llygad-Llo Mawr
(Leucanthemum vulgare)
Meillionen Goch
(Trifolium pratense)

Trefn Rheoli

Fel arfer, caiff y safle blodau gwyllt hwn ei reoli drwy dorri’r glaswellt a’i gasglu unwaith y flwyddyn rhwng mis Awst a mis Hydref. Mae’n hanfodol bod y toriadau’n cael eu casglu a’u cludo oddi yno. Mae hyn yn lleihau ffrwythlondeb a ‘grym’ y glaswellt o flwyddyn i flwyddyn, sydd o gymorth i rywogaethau blodeuog lluosflwydd barhau i sefydlu.

Dyddiad yr arolygiad diwethaf

1/07/2025

Os hoffech gofnodi’r bywyd gwyllt yr ydych chi’n ei weld ar y safle, cyflwynwch eich cofnodion dan ‘COFNOD’ yma here.

Lleoliad y Safle: Yr Hôb: The Willows

I weld y safle ar golwg stryd google cliciwch yma.

Ewch i weld rhai o’n safleoedd blodau gwyllt eraill

Lleoliadau cyfagos

Hoffem wybod eich barn

Os hoffech i ni wybod eich safbwyntiau ar y safle anfonwch e-bost atom bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen