Enillwyr Gwobrau Bionet 2022

 

 

Scroll Down

Gwobrau Bionet

Nod y gwobrau Bionet yw ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.

Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol.

Rhennir y gwobrau yn 7 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau.

Hoffwn llongyfarch y enillwyr canlynol:

Enillydd: Samuel Williams

Gwobr Unigolyn Ifanc

Hoffem longyfarch Samuel Williams am ennill Gwobr Person Ifanc Bionet.

Samuel yw Cadeirydd y clwb Eco yn ysgol Alun. Mae wedi helpu i drefnu i blannu 400 o goed ar dir yr ysgol er mwyn cefnogi aer glân a storio carbon. Mae Samuel wedi ceisio cael ei ysgol a’i gymuned leol i ymgysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu pwysigrwydd diogelu natur yn ein hysgolion ymhellach.

Da iawn Samuel am weithio’n galed i wneud gwahaniaeth!

Enillydd: Cyfeillion Y Fach a Gerddi Haulfre

Gwobr Grŵp Cymunedol

O ran ein Gwobr Grŵp Cymunedol, cawsom geisiadau ardderchog eleni. Cyflwynwyd y Wobr Grŵp Cymunedol i Gyfeillion Y Fach a Gerddi Haulfre.

Mae Cyfeillion Y Fach a Gerddi Haulfre wedi cydnabod yr angen am natur drwy gydol y tymhorau a llwyddo i reoli eu lle i gefnogi peillwyr pwysig drwy holl dymhorau’r flwyddyn. Mae coed, perllannau a gwinllannau wedi cael eu plannu i gefnogi storio carbon a’r angen am fwyd lleol. Yn ogystal â darparu gwestai pryfetach a chartrefi i bryfed hofran, fe sylweddolodd y grŵp ar bwysigrwydd hyrwyddo natur, ac maent wedi codi ymwybyddiaeth drwy’r wasg ar y teledu a’r radio. Yn ogystal, mae’r grŵp wedi creu taflenni a byrddau dehongli i gefnogi sut y gallwch helpu natur yn eich cartref.

Llongyfarchiadau i bob un o Gyfeillion Y Fach a Gerddi Haulfre, rydym yn edrych ymlaen yn arw at glywed am yr holl waith sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Enillydd: Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair

Gwobr Ysgol Gynradd

Mae Bionet yn cydnabod grym disgyblion ac athrawon yn ein hysgolion lleol ac roeddem eisiau tynnu sylw at y gwaith ardderchog sy’n cael ei gyflawni yn ein sefydliadau addysgol lleol. Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yw enillwyr y Wobr Ysgol Gynradd.

Mae disgyblion ac athrawon Ysgol Gynradd y Santes Fair wedi cyflawni gwaith arbennig yn eu hysgol ac maent wedi plannu dros 300 o goed chwip ar draws eu safle. Trwy greu’r digwyddiad Plannu Mawr yn 2021, fe wnaethant lwyddo i annog dros 100 o aelodau i ymuno a chefnogi plannu coed yn eu hardal leol. Yn ogystal, maent wedi cydnabod, drwy annog dim torri gwair o amgylch y coed newydd eu plannu, y gallant hefyd gefnogi anifeiliaid di-asgwrn-cefn a darparu lloches i fywyd gwyllt lleol. Maent wedi neilltuo 2500m2 o’u gofod i natur, sy’n gyflawniad aruthrol. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gofod yn datblygu. Llongyfarchiadau!

Enillydd: Ysgol Uwchradd Alun

Gwobr Ysgol Uwchradd

Disgyblion a staff Ysgol Uwchradd Alun yw enillwyr ein Gwobr Ysgol Uwchradd eleni! Mae’r wobr hon yn hynod haeddiannol diolch i’w hymrwymiad i natur drwy greu llawer o gynefinoedd ar draws eu safle. Yn cynnwys gofalu am dros 400 o goed ffrwythau, gosod pwll, neilltuo ardal ar gyfer y cynllun ‘dim torri gwair’ a chreu coridorau bywyd gwyllt ar draws y safle cyfan. Mae eu gweithredoedd wedi arwain at gydnabyddiaeth ac maent wedi ennill statws ysgol eco platinwm.

Da iawn i’r disgyblion a’r staff ardderchog am yr holl waith a wnaed. Rydym yn edrych ymlaen at weld eich safle’n ffynnu.

Enillydd: Coleg Cambria - Glannau Dyfrdwy

Gwobr Busnes

6. Mae ein gwobr busnes wedi cael ei chreu i gydnabod y gwaith a wneir yn ein sefydliadau preifat ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r Wobr Busnes i Goleg Cambria – Glannau Dyfrdwy.

Mae Coleg Cambria – Glannau Dyfrdwy wedi neilltuo eu man gwyrdd i greu dôl i fywyd gwyllt ar draws eu safle i gefnogi poblogaeth peillwyr lleol ac maent hefyd wedi plannu oddeutu 2000 o fylbiau brodorol ar draws eu safle.

Yn ogystal, maent wedi gosod gwrychoedd ar draws eu safle gyda llochesi bywyd gwyllt ychwanegol i gefnogi ystlumod, draenogod ac adar lleol.

Enillydd: Cyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd

Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned

2. Roeddem eisiau tynnu sylw at y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei gyflawni gan ein Cynghorau Tref a Chymuned lleol, a sut maent wedi gwella mannau lleol er mwyn i bawb allu eu mwynhau. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r Wobr Cyngor Tref neu Gymuned Bionet i Gyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd.

Mae Cyngor Cymuned LlDC wedi llwyddo i gydnabod llawer o’r materion ecolegol a wynebir a mynd i’r afael â phethau. Trwy reoli eu trefn torri gwair a dilyn ymarfer ‘dim torri gwair’, plannu dros 1000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol lleol yn yr ysgol leol a chael gwared ar goed gwael a marw i wneud lle ar gyfer natur newydd.
Mae eu gwaith hefyd wedi cael ei gydnabod ar raddfa ehangach ac maent wedi derbyn Statws Cyfeillgar i Wenyn gan Lywodraeth Cymru.

Llongyfarchiadau mawr i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan Gyngor Cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd!

Enillydd: Elaine Blanchard

Gwobr Gwirfoddolwr

Mae’r wobr olaf, y wobr Gwirfoddolwr wedi cael ei chreu i amlygu gwaith ac ymrwymiad un unigolyn i adferiad a chadwraeth natur. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r wobr hon eleni i Elaine Blanchard.

Mae Elaine wedi treulio blynyddoedd yn arolygu’r ystod o rywogaethau sy’n byw yng ngogledd Cymru. Mae hi wedi ymrwymo i arolygu’r Llyffant Cefnfelyn a Madfall y Tywod ar hyd twyni arfordirol Sir Ddinbych. Yn ogystal ag arolygu’r pathew a’r gwerlöyn llwyd, mae Elaine yn gwirfoddoli ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae’n aml yn cyflawni Archwiliadau o’r Draethlin ac mae hefyd yn wirfoddolwr Mamaliaid Morol gyda BDMLR. Mae Elaine hefyd wedi cofrestru fel Warden Môr-wenoliaid Bach gwirfoddol gyda’r RSPB yn y Parlwr Du, lle mae ei gwaith amhrisiadwy yn helpu i gefnogi ystod eang o fywyd gwyllt. Mae ei hymrwymiad arbennig yn cael ei nodi ac rydym eisiau diolch i Elaine a’i llongyfarch am roi o’i hamser i helpu ein bywyd gwyllt.

Instagram

Take a Look at What's Been Going On

Cysylltu â ni

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.