Cyfoeth Naturiol Cymru ac ENI UK Ltd

Gwaith Adfer Llac Twyni

[manylion y prosiect]

Scroll Down

Ffocws

Cynefinoedd

Trwy ein Cytundeb Rheoli Tir gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, mae cyllid wedi cael ei ddyfarnu i ymestyn prosiect adfer llac twyni Talacre. Yn 2021 bydd trydydd cyfnod y gwaith gwella cynefin llac twyni yn cael ei wneud.

 

 

Beth yw Llac Twyni?

Mae llac twyni yn ymddangos fel dyffrynnoedd gwastad yn y system twyni tywod. Maent yn cael eu ffurfio fel arfer gan weithred sgwrio’r gwynt dros gribau’r twyni ac mae’r tywod yn symud i gysgod y gwynt nes ei fod yn cyrraedd lefel dŵr daear. Maent fel arfer yn gyfoeth o rywogaethau unigryw ac un o’u nodweddion yw eu bod yn gorlifo yn yr hydref a dros fisoedd y gaeaf wrth i’r dŵr daear godi uwchben arwyneb y pridd. Mae’r amodau gwlyb yn cynhyrchu math o gynefin sy’n gyferbyniad llwyr i’r amodau sych arferol y mae pobl yn eu cysylltu â’r rhan fwyaf o systemau twyni tywod.

Pam mae gwaith rheoli yn cael ei wneud?

Pe bai’r tir yn cae ei adael heb ei bori a’i reoli, gallai priddoedd mwy trwchus ddatblygu gan ganiatáu i lystyfiant mwy bras ymsefydlu yno. Ar ôl sawl blwyddyn, gallai coed gytrefu yno a fyddai’n sugno’r merddwr, gan arwain at newid cyfansoddiad y llystyfiant. Os yw hynny’n digwydd ac heb wyntoedd cryfion rheolaidd i sgwrio’r isbridd, yr unig ddewis ar ôl er mwyn dod â’r planhigion prinnach yn ôl i’r ardal yw tynnu’r coed a centimedrau uchaf y ‘priddoedd’ i ddynwared yr amodau naturiol a oedd yn caniatáu i rywogaethau prinnach ffynnu yno yn y gorffennol.

Gweithgarwch Presennol
Mae disgwyl i waith y trydydd cyfnod gael ei gwblhau cyn gwanwyn 2021. Bydd y gwaith yn caniatáu i’r tywod noeth fod yn agored ac i ddŵr gasglu ar y wyneb wrth i’r tabl dŵr daear gynyddu dros fisoedd y gaeaf. Bydd y priddoedd tywodlyd noeth yn addas i blanhigion arbenigol gytrefu a thros nifer o flynyddoedd bydd yn aeddfedu i fod yn llystyfiant uchafbwynt llac twyni.
Mae cyfansoddiad y rhywogaeth yn cyferbynnu’n gryf â’r twyni sychach sydd yn aml yn cael eu dominyddu gan foresg. Mae hesgwellt fel y Carex arenaria a’r marchrawn amrywogaethol Equisetum variegatum yn debygol o dyfu yno yn eithaf cyflym, ac yn aml bydd Gwlyddyn Mair y gors Anagallis tenella a thegeirianau megis Tegeirian y Gors Dactylorhiza incarnata yn fuan wedyn. Mae rhywogaethau mwy cyffredin sy’n arbenigo mewn amodau gwlypach megis Dail-Ceiniog y Gors Hydrocotyle vulgaris a mint y dŵr Mentha aquatica hefyd yn debygol o fod yno, yn ogystal â’r corwlyddyn clymog Sagina nodosa a chlaerllys Samolus valerandi o deulu’r friallen. Yn ogystal â glaswellt a mwsog amrywiol, gobeithir y bydd Llysiau’r Afu Petalog Petalophyllum ralfsii sy’n blanhigyn hynod arbenigol, yn ehangu ei ddosbarthiad i’r ardaloedd newydd a greir yn Nhalacre.

Mae’r ardaloedd gwlyb agored sy’n cael eu creu yn fuddiol nid yn unig i’r planhigion arbenigol ond gallant hefyd helpu galwad y Llyffant Cefnfelyn gwrywaidd, gan y bydd y llac twyni newydd yn dal dŵr i mewn yno tan y tymor magu yn y gwanwyn.

Mae disgwyl i drydydd cyfnod gwaith adfer Llac Twyni Talacre gael ei gwblhau cyn gwanwyn 2021 mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y gwaith yn caniatáu i ddŵr gasglu yn yr ardaloedd sydd newydd eu clirio wrth i’r tabl dŵr daear godi dros fisoedd y gaeaf. Bydd y priddoedd tywodlyd noeth yn addas i blanhigion arbenigol gytrefu a thros nifer o flynyddoedd bydd yn aeddfedu i fod yn llystyfiant uchafbwynt llac twyni. Bydd gwaith monitro botanegol parhaus yn cofnodi rhywogaethau sy’n cytrefu.