Cyngor Sir Ddinbych

Planhigfa Goed Sir Ddinbych

Scroll Down

Ffocws

Tarddiad Lleol

Mae Planhigfa Goed Sir Ddinbych wedi’i lleoli yn Llanelwy. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dyfu coed a blodau gwyllt brodorol lleol er cadwraeth. Gwneir hyn drwy gynaeafu hadau o ddolydd blodau gwyllt llawn gwahanol rywogaethau, casglu tocion coed a chynaeafu hadau coed mewn lleoliadau strategol yn Sir Ddinbych a’r cyffiniau. Bydd Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr yn cynaeafu, plannu a thyfu’r rhain ym Mhlanhigfa Goed Sir Ddinbych. Nod y blanhigfa yw tyfu degau o filoedd o blanhigion a choed brodorol i’w defnyddio mewn amrywiol gynlluniau a phrosiectau plannu ledled y sir. Gyda chymorth gwirfoddolwyr, mae Planhigfa Goed Sir Ddinbych yn ein galluogi i adfer cynefinoedd pwysig a gwella’r amgylchedd lleol i bobl a bywyd gwyllt ledled Sir Ddinbych.

Datganiad DECCA

Amrywiaeth – Rydym yn cynaeafu amrywiaeth eang o hadau a thociau blodau gwyllt a choed brodorol o Sir Ddinbych a’r cyffiniau, sydd wedyn yn cael eu prosesu a’u tyfu yn y Blanhigfa Goed. Yna, caiff y rhain eu defnyddio i greu dolydd, coetiroedd a gwrychoedd llawn gwahanol rywogaethau, sy’n helpu cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Graddfa – Hyd yma, mae dros 40,000 o flodau gwyllt brodorol a dyfwyd ym Mhlanhigfa Goed Sir Ddinbych wedi cael eu plannu ar hyd a lled ein rhwydwaith 72 erw o safleoedd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych a’r cyffiniau. Bydd coed brodorol a dyfwyd ar y safle yn cael eu plannu yn ystod hydref 2024, gan greu coetiroedd a gwrychoedd newydd ar hyd a lled Sir Ddinbych.

Cyflwr – Mae plannu blodau gwyllt a choed brodorol lleol yn y mannau cywir yn gwella ansawdd a chyflwr cynefinoedd bywyd gwyllt.

Cysylltedd – Mae safleoedd plannu’r blodau gwyllt a’r coed wedi’u lledaenu yma ac acw ar draws Sir Ddinbych ac yn gweithio fel cerrig camu i fywyd gwyllt symud drwy’r dirwedd. Mae’r safleoedd yn cynnwys ysgolion, ymylon ffyrdd, mannau cymunedol a thir sy’n eiddo i Gynghorau Tref a Chymuned.

Agweddau ar wytnwch ecosystemau – fel yr amlinellwyd uchod, mae holl agweddau gwytnwch ecosystemau wedi cael eu hystyried i sicrhau bod y prosiect hwn yn helpu adfer y byd natur lleol.

 

Cyllid

Mae Meithrinfa Goed Sir Ddinbych yn cael ei hariannu gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, a geir mynediad iddo drwy’r Bartneriaeth Natur Leol a Rhaglen Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol Cyngor Sir Dinbych.

 

Gwirfoddolwr ym Planhigfa Goed Sir Ddinbych

Cymryd Rhan

Anfonwch e-bost i gymryd rhan biodiversity@denbighshire.gov.uk

Darganfod Mwy

Cysylltwch biodiversity@denbighshire.gov.uk

Instagram

Take a Look at What's Been Going On