Awdurdodau lleol a phartneriaid

Plannu Coed

Scroll Down

Ffocws

Cynefin / Polisi

Mae llawer mwy o ddiddordeb wedi bod mewn plannu coed dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ein partneriaid yn plannu coed ar draws y rhanbarth. Mae gan Gyngor Sir y Fflint gynllun coed a choetiroedd trefol sy’n cyfarwyddo’r gwaith o blannu coed mewn trefi.

Mae nifer o ysgolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau plannu coed ac mae busnesau yn prynu a phlannu coed fel rhan o’u rhaglenni cyfrifoldeb amgylcheddol.

Rydym wedi dechrau cofnodi ein gwaith plannu coed ar fapiau, rydym yn bwriadu ymestyn hyn i greu darlun clir o waith plannu coed ledled y rhanbarth. Rydym yn edrych ar ganfod coed a chyflenwadau stoc lleol yn y dyfodol.

Yn fwy na dim, yr hyn sy’n bwysig yw bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lle cywir, osgoi plannu mewn cynefinoedd sydd eisoes yn rhai pwysig a sicrhau nad yw’r coed sy’n cael eu plannu yn creu problemau i’n cymunedau yn y dyfodol.

 

Darganfyddwch fwy

Cysylltwch â’ch cydlynydd bioamrywiaeth.

Dod o hyd iddynt yma

 

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen