Tîm bioamrywiaeth cyngor Sir Ddinbych

Prosiect afancod
Sir Ddinbych

Gwarchodfa Natur Green Gates - Lleoliad y prawf afancod caeedig.

Awst 2025

Partner o'r prosiect afancod Cymru.

Scroll Down

Nodau

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i adferiad natur a mynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd. Fe wnaethon ni gyhoeddi argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol yn 2021, ac rydym nawr yn gweithio i gyflawni ein strategaeth argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol.

I osgoi’r argyfwng ecolegol, mae angen i ni greu cymaint o gynefin a phosibl i gefnogi ein bywyd gwyllt. I gyflawni hyn, rydym wrthi’n creu gwarchodfa natur 70-erw yn Llanelwy – lle byddwn yn rhyddhau teulu o afancod i loc fel rhan o brawf amgaeedig afancod 5 mlynedd.

Mae afancod yn rhywogaeth gonglfaen sydd wedi cael eu dangos i newid eu hamgylchedd a chynyddu bioamrywiaeth. Ein nod cyffredinol yw bod yr afancod hyn yn cynyddu’r nifer ac amrywiaeth o fywyd gwyllt yn sylweddol of fewn y warchodfa natur.

Byddwn yn gweithio gyda gwyddonwyr i fonitro effeithiau’r teulu afancod ar rywogaethau a chynefinoedd amrywiol o fewn y warchodfa natur. Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ar addysg, gan ganiatáu i bobl ddysgu am afancod a gweld eu heffeithiau yn uniongyrchol.

Ffeithiau

Ecoleg afancod

Beth yw afanc?

Mae afanc yn famolyn mawr, tua maint ci canolig, sy'n byw yn ein hafonydd, llynnoedd, pyllau a gwlypdiroedd.

Yr afanc Ewrasiaidd (brodorol i Ewrop ac Asia) yw'r ail gnofil mwyaf yn y byd, ac yn pwyso hyd at 30kg! Gan eu bod yn rhan ddyfrol, maent yn treulio rhan fwyaf o'i hamser yn y dŵr ond byddant yn mentro allan i fwydo ar y glannau cyfagos - fel arfer yn aros o fewn 20m.

Mae ganddynt got ffwr brown trwchus i'w cadw'n gynnes yn y dŵr, traed gweog, a chynffon cennog gwastad nodedig sy'n gweithredu fel llyw wrth iddyn nhw nofio.

Teulu

Mae afancod yn byw gyda'i gilydd mewn grwpiau teuluol, sydd fel arfer yn cynnwys pâr bridio a'u hepil o'r ddwy flynedd flaenorol. (Ffaith hwyl: Gelwir afancod ifanc yn 'gathod bach'!).

Ond nid yw teuluoedd yn cymysgu! Mae afancod yn diriogaethol iawn a byddant yn ymladd yn ymosodol ag afancod eraill nad ydynt o'u grŵp teuluol. Mae'r diriogaeth gyfartalog yn 3km o hyd ar draws y lan. Ar ôl dwy flynedd, bydd y cathod bach fel arfer yn gadael i ddod o hyd i'w tiriogaeth eu hunain.

Bwyd

Mae afancod yn llysieuwyr – sy'n golygu dim ond planhigion maen nhw'n eu bwyta! Mae afancod yn bwyta planhigion sy'n tyfu tu fewn a thu allan o'r dŵr, ac yn aml byddan nhw'n torri coed i lawr er mwyn bwyta'r rhisgl, canghennau bach, a dail.

Gan ddefnyddio eu dannedd blaen mawr, bydd yr afanc yn cnoi i mewn i foncyff coeden, gan dorri'r pren i ffwrdd mewn patrwm crwn. Nes bod yr hyn sydd ar ôl o foncyff y goeden yn rhy gul i gynnal y goeden, ac mae'n cwympo drosodd. Gall afanc sy'n oedolyn dorri coeden hyd at 1m mewn diamedr! Er eu bod gwell ganddyn nhw lasbren.

Ffaith Hwyl: Nid yw dannedd blaen afancod yn stopio tyfu! Maen nhw hefyd yn cynnwys dyddodion haearn – gan eu gwneud yn galed iawn ac yn oren llachar!

Cartref

Mae afancod yn gloddwyr cryf ac yn hoffi byw mewn tyllau mawr tanddaearol yng nglannau corff dŵr. Maent yn cloddio'r fynedfa o dan y dŵr er diogelwch, yna'n cloddio i fyny ac allan fel bod y twll ei hun yn sych.

Weithiau, os nad yw'r glannau'n addas ar gyfer cloddio, bydd afanc yn adeiladu 'llety' yn lle. Strwythurau uwchben y dŵr yw lletyau wedi'u gwneud o laid a changhennau, wedi'u hadeiladu ar y glannau neu yn y dŵr.

Nid yw afancod yn gaeafgysgu, felly i oroesi'r gaeaf byddant yn creu stôr bwyd o lystyfiant coediog tanddwr wrth ymyl eu prif dwll neu lety.

Argaeau

Mae gwell gan afancod byw mewn dŵr sydd o leiaf 60cm o ddyfnder. Mae'r dŵr dwfn yn fwy diogel i symud drwyddo ac yn helpu i guddio'r fynedfa i'w twll neu eu llety. Felly, os yw'r dŵr lle maen nhw'n rhy fas, bydden nhw'n adeiladu argae!

Mae'r 'argaeau gollyngol' hyn wedi'u gwneud o laid, ffyn, llystyfiant a choed wedi'u torri i rwystro llif y dŵr. Mae hyn yn codi lefel y dŵr, wrth dal i ganiatáu i beth o'r dŵr ollwng dros a thrwy'r argae i lawr yr afon.

Oherwydd yr ymddygiad hwn, mae afancod yn aml yn cael eu galw'n "beirianwyr ecosystemau"! Gallant newid eu hamgylchedd yn aruthrol, gan greu gwlypdiroedd mawr ac amrywiol!

Dod ac afancod yn ôl

Ar un adeg, roedd afancod yn gyffredin ym Mhrydain, Ewrop a Asia cyn cael eu hela i bron ddifodiant am eu ffwr a’u cig. Mewn gwirionedd, bu farw’r afanc olaf ym Mhrydain dros 400 mlynedd yn ôl! Yn ffodus, llwyddodd rhai poblogaethau bach i oroesi yn Ewrop, ac ers y 1920au bu dros 200 o drawsleoliadau llwyddiannus i dros 25 wledydd.

Daeth afancod yn ôl i’n glannau am y tro cyntaf yn 2009, pan gafodd 5 teulu eu rhyddhau i goedwig Knapdale yn Argyll, yr Alban. Ers hynny, mae sawl rhyddhad arall wedi bod yn yr Alban a Lloegr, mewn caeau ac yn y gwyllt. Rŵan, mae dros 1500 o afancod yn byw yn y DU – rhai ohonynt sydd wedi dod o hyd i’w ffordd i Gymru!

Mae afancod yn rhywogaeth warchodedig yn Lloegr a’r Alban, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r hailgyflwyniad rheoledig i Gymru.

Pam rydyn ni eisiau afancod yn ein gwarchodfa natur?

Gwasanaethau amgylcheddol da

Mae afancod yn greaduriaid gwych syn gallu cael effaith fawr ar ein hamgylchedd! Dyma rhai o’r gwasanaethau amgylcheddol sydd ganddyn nhw i gynnig:

01

Gwella ansawdd dŵr

Mae argaeau afancod yn wych am wella ansawdd dŵr – gan weithredu fel hidlen fawr!

Wrth i ddŵr pasio’n araf drwy’r argae, mae’r argae yn hidlo’r maetholion o’r dŵr ac yn dal gwaelodion – gan wella ansawdd ddŵr ymhellach i lawr yr afon.

02

Lleihau llifogydd

Mae’r argaeau ‘gollyngol’ hyn yn rhwystro llif y dŵr, gan godi lefel y dŵr y tu ôl i’r argae a chaniatáu swm llai i lifo heibio nag o’r blaen. Mae hyn yn golygu bod mwy o ddŵr yn cael ei storio y tu ôl i’r argae am hirach.

Felly, mewn cyfnodau o law trwm, bydd gwlyptir afanc gyda nifer o argaeau yn dal rhan fwyaf o’r dŵr hwn ac yn parhau i ryddhau’n araf dros oriau neu ddyddiau – gan leihau’r risg o lifogydd i lawr yr afon.

03

Lleihau'r effaith o sychder

Gan fod argaeau afanc yn storio mwy o ddŵr ar y tir, gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn mewn amodau sychder pan fo glawiad isel wedi bod.

Gan fod yr argaeau yn caniatáu i ddŵr ollwng drwodd yn araf, bydd dŵr yn parhau i lifo i lawr yr afon am gyfnod hirach ar ôl i’r glaw stopio.

04

Creu cynefinoedd

Mae afancod yn cael eu hadnabod fel ‘peiriannydd yr ecosystemau’ oherwydd eu gallu i newid eu hamgylchedd. Gallant greu gwlypdiroedd mawr ac amrywiol, sy’n fuddiol i lawer o wahanol rywogaethau!

Gan fod afancod yn ail-beiriannu eu gwlypdiroedd yn gyson trwy adeiladu argaeau newydd, cloddio sianeli newydd, a thorri coed – mae’r gwlypdiroedd maent yn creu yn ddeinamig ac yn cynnig digonedd o gynefinoedd a chilfachau amrywiol.

05

Cynyddu bioamrywiaeth

Mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod gwlypdiroedd afancod yn wych ar gyfer bioamrywiaeth! Maent yn darparu’r amodau cywir ar gyfer llu o wahanol blanhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Sydd, yn ei dro, yn darparu cyflenwad bwyd digonol i ystlumod, adar ac amffibiad.

Mae’r gorchudd dŵr cynyddol yn arbennig o ddefnyddiol i amffibiad – gan ddarparu mwy o gynefin ac ardaloedd i ddodwy eu hwyau.

06

Hybu poblogaethau pysgod

Mae afancod yn wych i bysgodyn! Yn aml, byddant yn adeiladu cyfres o argaeau gollyngol ar hyd afon, gan greu pyllau rhaeadru – o’r enw pyllau afancod. Bydd gwaelodion yn cronni y tu ôl i’r argaeau hyn, gan greu cynefin delfrydol i bysgod ifanc i lochesu a thyfu.

Mewn amodau sychder, gall pyllau afancod fod yr unig ran o afon nad yw’n sychu, gan ganiatáu i boblogaethau pysgod oroesi’r sychderau sy’n dod yn fwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd.

Sut fyddwn ni'n ei wneud?

 

Cyn i’r prosiect ddechrau, bydd angen gwneud y safle’n addas ar gyfer teulu o afancod. Bydd hyn yn cynnwys gwaith hydrolegol i greu cyrff dŵr newydd a chynnal lefelau dŵr. Nesaf, bydd angen i ni greu lloc o ffensys arbenigol a gynlluniwyd i gadw’r afancod i mewn!

Byddwn yn ymgynghori â thirfeddianwyr a busnesau cyfagos, i fyny ac i lawr yr afon o’r warchodfa natur – i’w gwneud yn ymwybodol o’r prosiect ac i dderbyn eu barn. Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, byddwn hefyd yn ymgysylltu â myfyrwyr o’r ardal leol trwy ymweld ag ysgolion a chynnal Gweithdai Afancod!

I ryddhau afancod, bydd angen i ni wneud cais am drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Gall afanc sy’n oedolyn fwyta hyd at 2kg o ddeunydd planhigion mewn un diwrnod! Cyn i ni ryddhau afancod i’r warchodfa natur, mae angen i ni sicrhau bod ganddyn nhw ddigon i’w fwyta – trwy blannu llawer o goed a phlanhigion eraill.

Os byddwn yn llwyddiannus yn ein cais am drwydded, bydd angen i ni ddod o hyd i bâr neu grŵp teuluol o afancod o’r DU i’w hail-leoli! Ein nod yw rhyddhau teulu o afancod i’r lloc yn y Gwanwyn neu’r Hydref 2026. Ar ôl rhyddhau, byddwn yn cynnal monitro ac ymchwil ymestynnol, yn ogystal â chreu cyfleoedd addysg ac ymgysylltu sylweddol.

Sut i gymryd rhan!

Bydd angen llawer o ffrindiau afancod arnom yn y dyfodol! Cysylltwch â ni i ddweud sut rydych chi’n cefnogi’r prosiect.

  • Gyda gwaith cynefin dal yn digwydd, gallwch gymryd rhan trwy wirfoddoli ac ymuno â ni am ddiwrnod o blannu coed.
  • Ydych chi’n rhan o ysgol, grŵp cymunedol neu sefydliad sydd â diddordeb? Gallwn ddod i roi sgwrs am afancod i chi.
  • Ydych chi’n byw yn ardal Llanelwy? Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect!
  • Dewch yn wirfoddolwr afanc i’n helpu gyda thasgau fel gwirio ffensys, arolygon rhywogaethau a gwirio trapiau camera.
  • Cofrestrwch nawr i ddod ar saffari afancod! (Bydd dyddiadau’n cael eu trefnu ar ôl y rhyddhad).

I fynegi eich diddordeb am unrhyw un o’r uchod, anfonwch e-bost at:
prosiectafancod@sirddinbych.gov.uk.