Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Rheoli Rhostiroedd ac Atal Tanau Gwyllt Sir Ddinbych

[manylion y prosiect]

Scroll Down

Ffocws

Cynefinoedd/Ymwybyddiaeth/Polisi

Mae’r prosiect hwn yn ymateb i’r ymchwiliad i’r tân gwyllt ar Fynydd Llantysilio lle cafodd 270ha+ o rostir uchel (SoDdGA a ACA) ei ddinistrio gan dân gwyllt a fu’n llosgi am 6 wythnos yn ystod haf 2018. Dywedwyd mai diffyg rheoli’r rhostir oedd yn gyfrifol am faint a difrifoldeb y tân a adawodd lwyth tanwydd sylweddol a risg tân uchel ar y mynydd o ganlyniad.

Roedd nifer o ffactorau yn gyfrifol am ddiffyg rheolaeth o’r grug ar y mynydd, nod y prosiect hwn yw ymgysylltu â thirfeddianwyr a ffermwyr i ddod o hyd i ffyrdd o amgylch y rhwystrau i reoli’r rhostiroedd yn Sir Ddinbych a gan hynny dod â buddion i bobl a bywyd gwyllt a lleihau’r risg o danau gwyllt yn y dyfodol.

Un elfen o’r prosiect yw gweithredu rhaglen adfer ar y rhan honno o Fynydd Llantysilio a ddifrodwyd gan y tân. Bydd hyn yn dechrau ym mis Mawrth 2021 trwy dorri a chasglu grug a’i ddefnyddio fel tomwellt ar yr ardaloedd hynny o’r mynydd a ddifrodwyd gan y tân er mwyn sefydlogi mawn a phridd er mwyn galluogi planhigion y rhostir i ail-gytrefu.

Datblygu polisi ar gyfer asesiadau risg o danau gwyllt a chynlluniau ymateb, fformiwleiddio dull gweithredu cydlynol i reoli risg ac ymateb i danau gwyllt.

Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys: Cyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

 

 

Cynefinoedd

Cynefin – cefnogi perchnogion tir a ffermwyr i reoli rhostir yn briodol trwy dorri grug, llosgi dan reolaeth a phori er lles bioamrywiaeth, pobl a ffermio a lleihau’r risg o danau gwyllt.

Ymwybyddiaeth – codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth rhostir a risgiau o ran achosi’r tanau gwyllt.

Ymgysylltu â chymunedau, tirfeddianwyr a rheolwyr am rostir a’i bwysigrwydd iddynt yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Arwyddocâd rhostir yng nghymeriad y tirlun ac ymdeimlad o le i gymunedau lleol. Pwysigrwydd rhostiroedd i ddarparu nwyddau cyhoeddus (secwestriad CO2, ansawdd dŵr a lliniaru llifogydd).

Cyllid

Ceisio arian i gefnogi cyfnod pontio i reoli rhostiroedd yn gynaliadwy yng nghyd-destun newid polisi amaethyddol a chymorth, newid hinsawdd ac argyfwng ecolegol.

Darganfyddwch fwy

Cyswllt Prosiect: Graham Berry, Swyddog Maes Rhostiroedd, graham.berry@denbighshire.gov.uk

Dolenni cyswllt perthnasol eraill:

 

Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt Cymru 2008 https://gov.wales/heather-and-grass-burning-code

 

Grŵp Rheoli Ucheldiroedd

Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt Cymru 2008

Fforwm Tanau Gwyllt Cymru a Lloegr

 

 

 

 

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen