Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog

Prosiect Gwiwerod Coch

Scroll Down

Ffocws

Rhywogaethau

Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog (YGCC) yn sefydliad gwirfoddol sy’n anelu at amddiffyn a gwarchod Gwiwerod Coch yng Nghoedwig Clocaenog.

Mae YGCC yn grŵp gwirfoddol sydd â chyfansoddiad llawn gyda chynrychiolwyr o bwyllgorau sy’n cynnwys rhai o aelodau ehangach yr Ymddiriedolaeth.

 

 

 

Partneriaid

Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys trigolion lleol a phobl o ardaloedd cyfagos. Partner allweddol YGCC yw Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli’r goedwig.

Nod YGCC yw:

• Cydweithio fel grŵp cymunedol
• Cadw gwiwerod llwyd allan o’r goedwig i sicrhau ffynniant gwiwerod coch
• Gweithio gyda sefydliadau partner ac unigolion allweddol i wella cadwraeth gwiwerod coch
• Ennyn diddordeb pobl leol a’r gymuned ehangach mewn gwarchod natur a threftadaeth. Codi ymwybyddiaeth o’r trafferthion sy’n wynebu’r wiwer goch
• Cael cyllid, adnoddau a meithrin perthnasoedd i sicrhau dyfodol hirdymor y wiwer goch yn y goedwig
• Cefnogi gwaith ymchwil, astudiaethau ac ymchwiliadau gwyddonol / ecolegol a fydd yn cefnogi goroesiad y wiwer goch yn ogystal â helpu i fod yn sail i waith cadwraeth ehangach yn y goedwig.
• Mae gwirfoddolwyr yn y goedwig bob wythnos yn cynnal amryw o weithgareddau ymarferol sy’n gysylltiedig â helpu i warchod y wiwer goch. Mae rhai o’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:
• Gosod / monitro camerâu ar lwybrau o amgylch y goedwig, (mae dros 80 o gamerâu ym mhob rhan o’r goedwig ar hyn o bryd).
• Sicrhau bod digon o fwyd yn y blychau bwydo
• Adeiladu nythod a blychau bwydo yn ogystal â chaeadleoedd fel rhan o raglen a gynlluniwyd i atgyfnerthu’r wiwer goch (er mwyn rhoi hwb i’r boblogaeth)
• Gwiriadau iechyd a lles ar wiwerod coch mewn caeadleoedd cyn eu rhyddhau i mewn i’r goedwig
• Gosod coleri radio i olrhain gwiwerod coch er mwyn monitro eu hiechyd/lles a’u defnydd o gynefinoedd
• Gweithio mewn partneriaeth ag ecolegwyr a gweithwyr cadwraeth proffesiynol i gefnogi gwaith y grŵp
• Monitro a rheoli gwiwerod llwyd

Darganfyddwch fwy

 

Ewch i Wefan Y Prosiect Yma