Coetiroedd

Cynllun Adfer Natur Coetir ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Yr Heriau

• Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop lle mae coetiroedd yn gorchuddio dim ond 14.8% o’r tir o’i gymharu â chyfartaledd o 38% ar gyfer yr UE.

• Mae statws cadwraeth cyffredinol coetiroedd dynodedig Cymru yn anffafriol ac mewn 40% o goetiroedd yng Nghymru nid oes mesurau rheoli yn bodoli neu maent yn brin iawn.

• Mae coetiroedd a choed yn eithriadol o bwysig i natur ac mae ganddynt amryw o fanteision amgylcheddol eraill gan gynnwys storio carbon, rheoleiddio dŵr ac ansawdd aer a helpu i leihau effaith newid hinsawdd.

• Mae bygythiadau i goetiroedd yn cynnwys darnio, diffyg rheolaeth a phlâu a chlefydau. Bydd clefyd coed ynn yn fygythiad difrifol i’n coed ynn, ein coetiroedd a’r rhywogaethau cysylltiedig dros y blynyddoedd nesaf.

Coetir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Yn gyffredinol mae lefelau gorchudd coetiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r lefelau gorchudd coetiroedd isaf yn siroedd Wrecsam 9.4% a Sir y Fflint 9.8% ac ychydig yn uwch yn Sir Ddinbych 11.7% a Chonwy 13.8%

Mae safleoedd coetiroedd mawr yn y rhanbarth yn cynnwys Coed Moel Fammau, Coetir Dyffryn Alyn, coedwigoedd Clocaenog a Gwydir.

Coetiroedd ar ffermydd ac ystadau gwledig yw mwyafrif y gweddill.
Ar draws y rhan fwyaf o Gymru, mae darnio coetiroedd a diffyg rheolaeth yn gostwng cyflwr a gwytnwch coetiroedd yn y rhanbarth.

 

Ein heffaith ar Goetiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Yn y tymor byr (12 mis):

Mapio ein cynefinoedd coetir a phrosiectau cysylltiedig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru

Tymor canolig (1-5 flynedd)

Cynyddu niferoedd coetiroedd llydanddail a chymysg brodorol a choed dan reolaeth ffafriol.

Hirdymor (5 mlynedd +)

Cynyddu coetiroedd llydanddail a chymysg brodorol, brigdwf, cysylltedd a gwytnwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Profwyd bod treulio amser mewn coetiroedd neu o amgylch coed yn gyffredinol yn helpu i wella iechyd a lles

Map Rhyngweithiol

Edrychwch ar ein Map Coetiroedd

Dod yn fuan….