Glaswelltiroedd

Camau gweithredu ar gyfer Glaswelltir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Yr Heriau

• Glaswelltir yw bron i ddau draean o orchudd tir Cymru. Fodd bynnag mae’r rhan fwyaf o’r glaswelltir hwn wedi’i wella yn amaethyddol (wedi’i ail-hadu, gwrteithio neu ei ddraenio), a dim ond 9% ohono sy’n laswelltir lled-naturiol.

• Mae gostyngiad o 91% wedi bod mewn glaswelltir lled-naturiol ar dir isel rhwng 1930au a 1990au yng Nghymru a hynny yn bennaf oherwydd gwelliannau amaethyddol.

• Fel cynefinoedd coetiroedd, mae glaswelltir sy’n gyfoeth o rywogaethau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn aml yn dameidiog ac mewn cyflwr gwael.

• Yn aml mae’r cynefinoedd glaswellt o amgylch aneddiadau wedi cael eu rheoli dros nifer o flynyddoedd er mwyn lleihau amrywiaeth a gwerth ar gyfer natur. Trwy newid arferion rheoli ein hardaloedd glaswelltir lleol gallwn gynorthwyo i ddod â blodau gwyllt a bywyd gwyllt yn ôl.

• Mae ymylon ffyrdd hefyd yn rhan bwysig o gynefinoedd glaswelltir sy’n aml yn cadw rhywogaethau a fyddai wedi byw yn ein dolydd colledig.

Glaswelltir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mae glaswelltir lled-naturiol wedi’i wneud o gymysgedd o laswellt a phlanhigion llysieuol, caiff y cynefin ei greu gan ffermio dwysedd isel neu lystyfiant naturiol ar briddoedd gwael. Mae’r cynefin yn cefnogi llawer o rywogaethau prin a rhywogaethau sy’n prinhau.

Mae diffyg data ar gyfer glaswelltir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae nifer o wahanol fathau o laswelltir ledled rhanbarth Bionet.

Mae glaswelltiroedd Calaminaraidd (ar briddoedd sydd â lefelau uchel o fetelau trwm) yn bresennol yng Ngwydir, Conwy a Mynydd Helygain, Sir y Fflint. Mae dolydd gorlifdir pwysig yn Wrecsam, safleoedd glaswelltir calchaidd (ar galchfaen) yn wasgaredig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru yn: Y Gogarth a Phenrhyn Creuddyn, llechwedd Prestatyn, Mynydd Helygain a’r Mwynglawdd. Yn aml mae anifeiliaid di-asgwrn cefn, planhigion is, ffwng, planhigion sy’n blodeuo, adar ac ystlumod yn gysylltiedig â’r safleoedd hyn ac mae nifer ohonynt yn cael eu hamddiffyn gan SoDdGA neu ddynodiad arall.

Ein heffaith ar Laswelltir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Yn y tymor byr (12 mis)

Mapio ein cynefin glaswelltir a phrosiectau cysylltiedig ledled Gogledd Ddwyrain Cymru

Tymor canolig (1-5 flynedd)

Cynyddu niferoedd cynefinoedd glaswelltir dan reolaeth ffafriol.

Hirdymor (5 mlynedd +)

Cynyddu niferoedd a gwytnwch glaswelltir yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae 97% o'n glaswelltir wedi'i golli ers y 1930au, mae glaswelltiroedd sy'n gyfoeth o rywogaethau yn darparu cynefin hanfodol i beillwyr.

Map Rhyngweithiol

Edrychwch ar ein Map Glaswelltir

Mae’r map yn dangos ein glaswelltiroedd presennol, lle mae cyfleoedd i wella neu ymestyn glaswelltir presennol, creu glaswelltir newydd a lle rydym eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

Nodwch: Mae ein mapiau yn defnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau ar-lein. Er fod data ar weithrediadau partner yn gywir hyd eithaf ein gwybodaeth ac rydym bob amser yn ceisio cael data o ffynonellau dibynadwy, ni all Bionet sicrhau cywirdeb neu chyflawnrwydd yr holl wybodaeth a gynhwysir yn ein mapiau. Mae defnyddiwr y map yn gyfrifol am benderfynu ei addasrwydd ar gyfer ei ddefnydd neu ddiben.