Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Coetiroedd ar gyfer Dŵr

Scroll Down

Ffocws

Cynefinoedd/Ymgysylltiad/Polisi

Mae cynllun Tirwedd Fyw Alun a Chwiler yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd drwy gyfrwng Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect tair blynedd ‘Coetiroedd ar gyfer Dŵr’ yw creu, cysylltu a gwella cynefinoedd yn nalgylchoedd Afon Alun ac Afon Chwiler, gyda ffocws penodol ar goetiroedd a gwella’r rheolaeth ar adnoddau dŵr yn y ddau ddalgylch.

 

Mae’r cynllun yn hybu rheolaeth gynaliadwy ar dir ac yn gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir yn nalgylchoedd yr afonydd, yn enwedig y rhai sydd eisiau gwella cynaliadwyedd ar y fferm a chryfhau cadernid yr ecosystemau yn wyneb newid hinsawdd, yn ogystal â phlâu a chlefydau.

 

 

Partneriaid

Mae’r prosiect yn cynnwys llawer o sefydliadau partner, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru, Bugeiliaid Coed, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, a hefyd Cynghorau Sir y Fflint a Dinbych.

Cyllid

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 – Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy, sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Darganfyddwch fwy

Ewch i wefan Tirwedd Fyw