Enillwyr Gwobrau Bionet 2023

Gogledd Ddwyrain Cymru

2023

Prosiect wedi'i gwblhau

 

Scroll Down

Gwobrau Bionet

Nod y gwobrau Bionet yw ddathlu gwaith pobl leol, cymunedau, sefydliadau a busnesau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gadw, gwarchod a gwella bioamrywiaeth.

Mae Bionet yn credu ei bod yn bwysig dathlu’r llwyddiannau a gyflawnwyd dros fioamrywiaeth. Yng ngoleuni’r argyfwng ecolegol, mae llawer o’r newyddion rydym yn ei glywed yn negyddol, ond mae llawer o bobl yn cael effaith bositif drwy gamau gweithredu lleol.

Rhennir y gwobrau yn 8 categori i ddangos sut y gall camau gweithredu gwahanol gael effaith bositif ar fioamrywiaeth mewn llawer o wahanol sectorau.

Hoffwn llongyfarch y enillwyr canlynol:

Enillydd: Grŵp Chirk Swifts & House Martins

Gwobr Grŵp Cymunedol

O ran ein Gwobr Grŵp Cymunedol, cawsom geisiadau ardderchog eleni. Cyflwynwyd Gwobr Grŵp Cymunedol i Grŵp Chirk Swifts & House Martins!

Mae’r grŵp hwn, a arweinir gan Hayley Garrod, wedi bod yn gwneud gwaith anhygoel i amddiffyn gwenoliaid duon a gwenoliaid y bondo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ers dechrau’r grŵp yn 2021, mae’r aelodau wedi creu 130 o leoedd i wenoliaid duon a gwenoliaid y bondo nythu, drwy osod blychau a chwpanau nythu ledled y Waun. Maent hefyd yn ymwneud â’r gwaith o archwilio’r ardal leol am nythod – gan gynnwys y nythfa yn Nhraphont Ddŵr y Waun – yn ogystal ag achub, adsefydlu a rhyddhau cywion sy’n neidio o’r nyth yn rhy gynnar. Yn ogystal â’r gweithgareddau hyn, maent wedi bod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau ac wedi dechrau grŵp Facebook, sydd bellach â 500 o aelodau, er mwyn codi ymwybyddiaeth i ymdrechion adar. Dyma enghraifft wych o’r effaith gadarnhaol y gall pobl ei chael ar fioamrywiaeth yn eu hardal leol.

Llongyfarchiadau i bawb sy’n ymwneud â grŵp Chirk Swifts & House Martins ar eich gwobr. Ni allwn aros i gael clywed am yr holl waith sydd wedi ei drefnu ar gyfer y dyfodol.

Enillydd: Ysgol Gynradd Sandycroft

Gwobr Ysgol Gynradd

Mae Bionet yn cydnabod grym disgyblion ac athrawon yn ein hysgolion lleol ac roeddem eisiau tynnu sylw at y gwaith ardderchog sy’n cael ei gyflawni yn ein sefydliadau addysgol lleol. Mae Gwobr Ysgol Gynradd yn mynd i Ysgol Gynradd Sandycroft.

Mae Ysgol Gynradd Sandycroft wedi gwneud gwaith ardderchog yn yr ysgol – mae’r disgyblion wedi plannu dros 100 o goed ifanc drwy eu partneriaeth â Chadwch Gymru’n Daclus, ac wedi creu dros 120m o wrych cynhenid. Yn ogystal, maent yn cydnabod y gallant hefyd gynnal anifeiliaid di-asgwrn-cefn a darparu lloches i fywyd gwyllt lleol drwy beidio â thorri’r glaswellt o amgylch tir yr ysgol a hybu dolydd blodau gwylltion. Ochr yn ochr â’r ardaloedd hyn o flodau gwylltion, mae’r ysgol wedi adeiladu nifer o westai trychfilod mawr a gosod cartrefi i ddraenogod.

Enillydd: Ysgol Uwchradd Prestatyn

Gwobr Ysgol Uwchradd

Disgyblion a staff Ysgol Uwchradd Prestatyn yw enillwyr ein Gwobr Ysgol Uwchradd eleni!

Mae’r ysgol hon yn llawn haeddu’r wobr oherwydd ei hymroddiad i natur drwy blannu gwrych dwbl ar gae’r ysgol gyda channoedd o goed ifanc yn ogystal â choed ffrwythau. Mae’r ysgol hefyd wedi creu nifer o byllau bychain, gwrych marw ar gyfer pryfed, ac wedi cynnal ardaloedd lle nad yw’r glaswellt yn cael ei dorri; rhoddir hadau blodau gwylltion a thywyrch ar y tir hwn er mwyn hybu twf blodau gwylltion. Mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn cychod gwenyn, gwestai trychfilod a blychau adar i ddenu bywyd gwyllt a darparu cynefin ar eu cyfer.
Da iawn i’r disgyblion a’r staff ardderchog am yr holl waith a wnaed. Rydym yn edrych ymlaen at weld eich safle’n ffynnu.

Enillydd: Ofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwobr Busnes

Crëwyd ein gwobr fusnes er mwyn cydnabod y gwaith a wneir yn ein sefydliadau preifat ledled gogledd-ddwyrain Cymru. Rydym yn falch o gael dyfarnu’r Wobr Fusnes i Ofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae Gofal a Thrwsio wedi bod yn gweithio i reoli ardal 11 erw o’r enw Parc Dyfrdwy. Rheolir Parc Dyfrdwy fel man gwyrdd cymunedol, sy’n gwella bioamrywiaeth ac yn creu amgylchedd naturiol diogel a braf ar gyfer pobl leol. Yn 2022/23 plannwyd 300 metr o wrych cynhenid yno, yn ogystal â 55 o goed safonol wrth ochr y llwybr cylchol newydd.

Maent hefyd wedi bod yn canolbwyntio ar greu cynefin ar gyfer ystod eang o rywogaethau, gan gynnwys ymlusgiaid ac adar.

Enillydd: Gyngor Cymuned Gwersyllt

Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned

Roeddem eisiau tynnu sylw at y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei gyflawni gan ein Cynghorau Tref a Chymuned lleol, a sut maent wedi gwella mannau lleol er mwyn i bawb allu eu mwynhau. Rydym yn falch iawn o gyflwyno Gwobr Cyngor Tref neu Gymuned Bionet i Gyngor Cymuned Gwersyllt.

Bu Cyngor Cymuned Gwersyllt, ar y cyd â Chyngor Sir Wrecsam, yn plannu dros 2,000 o goed llydanddail cynhenid i greu coetir cymunedol. Mae Cyngor Cymuned Gwersyllt hefyd yn gweithio gyda sefydliadau’r trydydd sector i gyflawni cyfres o welliannau isadeiledd gwyrdd o berllannau ffrwythau a dolydd blodau gwylltion i greu amgylchedd bioamrywiol, bywiog, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan Gyngor Cymuned Gwersyllt!

Enillydd: Diane Wright

Gwobr Gwirfoddolwr

Crëwyd Gwobr Gwirfoddolwr i amlygu gwaith ac ymroddiad un unigolyn i adferiad a chadwraeth natur. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r wobr hon eleni i Diane Wright.

Mae Diane wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig gyda Thir Gwyllt ers sawl blwyddyn. Yn ystod yr amser hwn mae Diane wedi cyfrannu tuag at lawer o welliannau i gynefinoedd, gan wella gwarchodfeydd natur a phyllau lle’r ydym yn canolbwyntio fwyaf ar y fadfall ddŵr gribog. Mae Diane wedi cymryd rhan mewn ystod o dasgau cadwraeth – o dynnu planhigion o deulu cynffon y gath o byllau, i osod gwrychoedd. Yn ddiweddar mae Diane wedi cynorthwyo gydag adeiladu gwrych marw, i weithredu fel coridor ar gyfer bywyd gwyllt, a fydd yn y pen draw yn mynd ar hyd y warchodfa i gyd. Mae Diane hefyd yn ymwneud â’r gwaith o gynnal arolygon ar y safle. Mae hi’n arbennig o fedrus wrth ganfod gwas y neidr a gloÿnnod byw.

Mae ei hymroddiad arbennig yn cael ei nodi ac rydym eisiau diolch i Diane a’i llongyfarch am roi o’i hamser i helpu ein bywyd gwyllt.

Instagram

Edrychwch beth sydd wedi bod yn mynd ymlaen

Cysylltu â ni

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.