WCVA/WBP/Awdurdodau Lleol

Partneriaeth Natur Leol Cymru

Ebrill 2012 – Parhaus

Scroll Down

Ffocws

Capasiti

Roedd hwn yn Gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ar ran Partneriaethau Natur Lleol gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu mwy o gapasiti i Bartneriaethau Natur Lleol.

Beth mae hyn wedi'i olygu yn Rhanbarth Bionet

Yn rhanbarth Bionet mae hyn wedi golygu;

Conwy: Ariannu Cydlynydd PNLl rhan amser.

Sir Ddinbych: Ariannu amser staff ychwanegol i’w dreulio ar brosiectau partneriaeth.

Sir y Fflint: Ariannu cynnydd mewn oriau staff gyda mwy o amser staff yn cael ei dreulio ar y Bartneriaeth Natur Leol.

Mae hefyd wedi darparu cyllideb ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo prosiectau ar gyfer holl siroedd Bionet. Er nad yw Wrecsam wedi cael capasiti ar gyfer staff ychwanegol ar gyfer y prosiect, maent wedi derbyn cyllideb ar gyfer y prosiect.

Mae pob cyngor hefyd yn cyfrannu at rôl swyddog prosiect rhan-amser yn Sir Ddinbych.

 

MAP RHYNGWEITHIOL

Edrychwch ar Ble Rydym Wedi Gwneud Gwahaniaeth

Mae’r map yn dangos prosiectau o bob rhan o Gymru.

 

Darganfyddwch fwy

Ewch i wefan y prosiect PNL